SL(6)228 – Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022

Cefndir a Diben

Mae Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022 (“y Gorchymyn”) yn gostwng y terfyn cyflymder o 30 milltir yr awr i 20 milltir yr awr ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru.

Mae adran 81(1) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (“y Ddeddf”) yn darparu na fydd yn gyfreithlon i berson yrru cerbyd modur ar ffordd gyfyngedig yn gyflymach na 30 milltir yr awr. O dan adran 81(2), caiff yr awdurdod cenedlaethol drwy orchymyn gynyddu neu ostwng y gyfradd cyflymder a bennir gan is-adran (1). Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn fel yr awdurdod cenedlaethol mewn perthynas â Chymru (adran 142(1)).

Diffinnir ffordd gyfyngedig gan adran 82(1) o’r Ddeddf fel ffordd â system o oleuadau stryd drwy gyfrwng lampau sydd wedi eu gosod heb fod yn fwy na 200 llath oddi wrth ei gilydd. Mae’r diffiniad hwn yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill y Ddeddf, gan gynnwys y rheini sy’n caniatáu i’r awdurdod traffig ar gyfer ffordd wneud newidiadau i’r terfyn cyflymder ar y ffordd honno. Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod traffig mewn perthynas â chefnffyrdd a ffyrdd arbennig, a’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol perthnasol yw’r awdurdod traffig mewn perthynas â ffyrdd eraill.

Yn benodol:

·         O dan adran 82(2) caiff yr awdurdod traffig gyfarwyddo bod ffordd sy’n ffordd gyfyngedig yn peidio â bod yn ffordd gyfyngedig, neu y bydd ffordd nad yw’n ffordd gyfyngedig yn dod yn ffordd gyfyngedig.

·         O dan adran 84(1)(a) caiff yr awdurdod traffig drwy orchymyn osod terfyn cyflymder ar unrhyw ffordd y mae’n gyfrifol amdani. Tra bod gorchymyn o’r fath mewn grym, nid yw’r ffordd berthnasol yn ffordd gyfyngedig (adran 84(3)).

Mae’r Gorchymyn yn gostwng y terfyn cyflymder rhagosodedig ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru, ond nid yw’n newid pŵer awdurdod traffig i newid y terfyn cyflymder ar ffordd benodol yn unol ag adrannau 82(2) ac 84(1)(a) o’r Ddeddf.

Y weithdrefn

Cadarnhaol Drafft

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Gorchymyn gerbron y Senedd. Ni all Gweinidogion Cymru wneud y Gorchymyn oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r Gorchymyn drafft.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Gwneir y Gorchymyn drwy arfer y pŵer yn adran 81(2) o’r Ddeddf sy’n darparu:

The national authority may by order increase or reduce the rate of speed fixed by subsection (1) above, either as originally enacted or as varied under this subsection.

Mae erthygl 2(2) o’r Gorchymyn yn darparu bod y cyfeiriad yn adran 81(1) o’r Ddeddf at 30 milltir yr awr [“30 miles per hour”] i’w ddehongli fel cyfeiriad at 20 milltir yr awr. Pan ddaw’r Gorchymyn i rym, bydd angen i berson leoli’r Ddeddf a’r Gorchymyn fel ei gilydd, er mwyn deall y terfyn cyflymder rhagosodedig ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru. Ni fydd unrhyw beth ar wyneb y Ddeddf i ddangos bod Gorchymyn o’r fath wedi’i wneud.

Gofynnir i Lywodraeth Cymru a yw wedi ystyried defnyddio’r pŵer yn adran 81(2) i wneud diwygiad testunol yn lle hynny i’r terfyn cyflymder yn adran 81(1), a fyddai’n helpu i wneud cyfraith Cymru yn y maes hwn mor hygyrch â phosibl i ddefnyddwyr ffyrdd.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodir na fydd y Gorchymyn yn dod i rym tan 17 Medi 2023. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn rhoi’r esboniad a ganlyn:

Mae hyn oherwydd bod angen cyfnod hir o baratoi i alluogi awdurdodau traffig i adolygu eu rhwydweithiau ffyrdd, gyda’r nod o benderfynu a oes angen iddynt wneud gorchmynion o dan adran 82(2) a/neu adran  84(1)(a) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 mewn perthynas â ffyrdd cyfyngedig lle nad ydynt yn credu y byddai’r terfyn cyflymder o 20 milltir yr awr yn briodol. Fel arfer, mae’r broses ar gyfer gwneud gorchmynion o’r fath yn cymryd nifer o fisoedd – yn hwypan fydd gwrthwynebiadau’n cael eu cyflwyno. Yn ogystal, bydd angen gwneuddiwygiadau i Reoliadau a Chyfarwyddiadau Arwyddion Cyffredinol  Traffig 2016 i gyd fynd â’r gorchymynarfaethedig yn dod i rym, i sicrhau y gellir gorfodi’r terfynau cyflymdernewydd yn gyfreithiol.

2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae Adran 3.3 o'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn nodi y bydd angen diwygiadau i Reolau'r Ffordd Fawr yn sgil y terfyn cyflymder rhagosodedig newydd.

Mae adran 38(2) o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 yn darparu y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ddiwygio Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ddirymu, amrywio, diwygio neu ychwanegu at ddarpariaethau’r Cod. Nid yw’r swyddogaeth hon sy’n perthyn i’r Ysgrifennydd Gwladol wedi’i throsglwyddo i Weinidogion Cymru, ac felly bydd angen i unrhyw newidiadau i’r Cod gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU.

Gofynnir i Lywodraeth Cymru esbonio sut y bydd yn sicrhau bod unrhyw newidiadau i Reolau’r Ffordd Fawr yn cael eu rhoi ar waith gan Lywodraeth y DU cyn i’r Gorchymyn ddod i rym, fel bod rhwymedigaethau defnyddwyr ffyrdd yng Nghymru yn parhau’n glir ac yn hygyrch i’r cyhoedd.

3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodir nad oes Asesiad ffurfiol o'r Effaith ar Gyfiawnder wedi'i gynnal.

Mae’r cyfiawnhad dros hyn wedi’i nodi yn adran 5.0 o’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n dod i’r casgliad mai dim ond ychydig o effaith fydd ar y system cyfiawnder troseddol, o ran cynnydd yn nifer y ceisiadau i’r llysoedd yn ymwneud â thocynnau am oryrru. Mae'r casgliad hwn yn seiliedig ar y ffactorau canlynol:

·         Y trothwy ar gyfer argymell erlyniad yw cyflymder cofnodedig o 35 milltir yr awr ar ffordd gyda chyfyngiad o 20 milltir yr awr.

·         Pan fo’r cyflymder a gofnodwyd yn llai na 32 milltir yr awr ar ffordd gyda therfyn cyflymder o 20 milltir yr awr, yna gellir cynnig cwrs ymwybyddiaeth ar gyflymder i’r gyrrwr yn lle dirwy a phwyntiau cosb.

·         Yn ystod y cynllun peilot gorfodi yng Ngogledd Llanelli, roedd 2% o'r troseddau goryrru a gofnodwyd yn rhai ar 35 milltir yr awr neu'n uwch na hynny, tra bod 92% yn yr ystod cyflymder priodol ar gyfer cyrsiau ymwybyddiaeth ar gyflymder.

·         Mae disgwyl i'r heddlu fabwysiadu agwedd o addysg yn hytrach nag erlyn wrth y camau cynnar o roi ar waith.

·         Bydd ymgyrchoedd ymwybyddiaeth cenedlaethol a lleol yn cyd-fynd â'r gostyngiad yn y terfyn cyflymder.

Nodwn fod gwahaniaethau rhwng terfyn cyflymder is a roddwyd ar waith mewn ardal cynllun peilot ddiffiniedig, a therfyn cyflymder rhagosodedig cenedlaethol (er enghraifft, gofynion gwahanol o ran arwyddion), a allai effeithio ar nifer a math y troseddau goryrru a gyflawnir. At hynny, byddem yn nodi bod gofynion cymhwysedd pellach ar gyfer cyrsiau ymwybyddiaeth ar gyflymder ar wahân i gyflymder cofnodedig. Yn benodol, mae cyfyngiad o un cwrs ymwybyddiaeth ar gyflymder fesul gyrrwr, fesul cyfnod o dair blynedd.

Gofynnir i Lywodraeth Cymru gadarnhau a wnaeth hi ddwyn y ddau bwynt uchod i ystyriaeth ai peidio wrth ddod i’r casgliad mai bychan fyddai’r effaith ar y system gyfiawnder.

 

 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r pwynt technegol ac mewn perthynas â’r ail a’r trydydd pwynt rhinwedd.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

29 Mehefin 2022